| Yn 2006 penderfynodd partneriaid
Diogelwch y Ffyrdd Cymru (Awdurdodau Lleol Cymru, Llywodraeth y
Cynulliad, y pedwar Heddlu, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru, y tri Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Gymdeithas
Frenhinol er Atal Damweiniau) y dylent fuddsoddi rhagor o adnoddau
i hybu diogelwch gyrwyr ifanc.
Yn hytrach na dyfeisio cynllun newydd, cytunwyd i fuddsoddi yn
y cynllun Pass Plus a cheisio, yr un pryd, ychwanegu rhagor ato.
Canlyniad hynny yw bod gan yrwyr newydd yng Nghymru gyfle’n
awr i gymryd Pass Plus Cymru yn hytrach na Pass Plus.
Mae Diogelwch y Ffyrdd Cymru yn estyn croeso i unrhyw Hyfforddwr
Gyrru sydd wedi cofrestru ar gyfer Pass Plus ystyried cofrestru
gyda Pass Plus Cymru hefyd. Dyma fanteision gwneud Pass Plus Cymru:
 |
Fydd pobl ifanc ond yn talu £20 am y cwrs
cyfan gan fod yr awdurdodau lleol yn talu am y gweddill. Oherwydd
hynny, gall llawer iawn ei fforddio. |
 |
Byddwch chi’n rhan o gynllun sydd wedi’i gydnabod
yn genedlaethol ac wedi cael cefnogaeth lawn yr Asiantaeth Safonau
Gyrru. |
 |
Gallech chi hyrwyddo Pass Plus Cymru i’ch myfyrwyr
eich hunain a’u hannog i wella’u sgiliau. Daw hynny
â rhagor o fusnes i chi. |
 |
Byddwch chi’n gymwys i roi hyfforddiant Pass Plus Cymru
yn eich ardal leol, ac ar hyd a lled Cymru, a chael mwy o gyfle
i gyflwyno’r cwrs i fwy o fyfyrwyr. Bydd hynny’n
helpu’ch busnes. |
 |
Cewch chi adborth ar yr holl hyfforddiant a roddwch, a gallai
hynny’ch helpu chi ar gyfer cyrsiau yn y dyfodol. |
Mae hwn yn ymdrin â chwe elfen cwrs Pass Plus yr Asiantaeth
Safonau Gyrru, ond yna fe ychwanegir ato adrannau sy’n ystyried
agwedd gyrwyr, yfed a chyffuriau, a phersbectif y gwasanaeth tân
o ran eu rôl wrth ymdrin â digwyddiadau traffig ar y
ffyrdd. Fe sylwyd bod y myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y sesiwn
yn rhyngweithio mwy â’r hyfforddwr gyrru. O gael gwybod
am amrywiaeth mawr o bynciau, mae myfyrwyr fel petaen nhw’n
awyddus i gael gwybod rhagor am yrru’n well ac am ddiogelwch
ar y ffyrdd. Bydd cyfnewid gwybodaeth fel hyn yn sicrhau bod pob
ochr yn cael y budd a’r mwynhad mwyaf o’r sesiwn.
Fe ewch chi â phâr o fyfyrwyr allan gyda’i gilydd
i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gyrru, fel y disgrifir
ym maes llafur Pass Plus. Byddwch chi’n hyfforddi’r
gyrrwr ac yn annog y myfyriwr arall i wrando ac i ddysgu o’r
hyfforddiant hwnnw wrth deithio. Yna, byddan nhw’n newid lle.
Profiad y cyrsiau yw bod mynd â phâr allan gyda’i
gilydd yn help mawr ac yn gwella’r profiad i’r ddau
fyfyriwr am eu bod nhw’n cael cyfle i wrando, dysgu a myfyrio
yn ogystal ag ymarfer yr hyn y maen nhw wedi’i glywed.
Y gobaith yw y bydd hyfforddwyr gyrru yn cydnabod manteision ychwanegol
Pass Plus Cymru o ran helpu pobl ifanc i wella’u gyrru –
a thrwy hynny helpu i gwtogi ar ddigwyddiadau annymunol ac arbed
bywydau – ac, yn bwysig iawn, y bydd yn help mawr i chi a’ch
busnes. Croesawn y cyfle i chi ddod yn rhan o Pass Plus Cymru, ond
byddwn ni hefyd yn deall os dymunwch chi ddal i hyrwyddo’r
cynllun Pass Plus safonol yn unig.
Mac Driving Excellence, ar ran Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru,
sy’n gweinyddu Pass Plus Cymru. Os oes gennych chi ddiddordeb
mewn cofrestru gyda Pass Plus Cymru, cliciwch yma.
A. Bydd gofyn i chi lofnodi contract gyda Mac Driving Excellence
a bydd angen i chi fod ag Yswiriant Indemniad Proffesiynol ac Yswiriant
Atebolrwydd Cyhoeddus
A. Ar hyn o bryd, cân nhw £200 am y sesiwn 8-awr
A. Caiff eich ffi ei thalu gan Mac Driving Excellence, a fydd yn
ceisio’i thalu cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r hyfforddiant
gael ei gwblhau
A. Na fyddwch. Caiff y ffi o £20 ei thalu’n uniongyrchol
i Mac Driving Excellence
A. I ryw raddau, mae’n dibynnu ble’r ydych chi’n
byw/gweithio gan fod mwy o gyrsiau Pass Plus Cymru ar gael mewn
rhai ardaloedd na’i gilydd. Bydd hi hefyd yn dibynnu ar faint
o hyfforddwyr gyrru yn eich ardal chi fydd wedi cofrestru ar gyfer
Pass Plus Cymru. Ond y ffordd sicraf o gael gwaith yw i chi gyfeirio
gyrrwr newydd at gwrs Pass Plus Cymru ac i’r myfyriwr ofyn
am gael ei hyfforddi gan yr hyfforddwr gyrru sydd wedi’i gyfeirio/wedi’i
chyfeirio at y cwrs.
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
|