Mae’n fwy na thebyg eich bod
chi wedi clywed am Pass Plus - cwrs yr Asiantaeth Safonau Gyrru
o chwe gwers yrru sy’n helpu i roi rhagor o brofiad gwerthfawr
i chi. Bydd yn eich dysgu i ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd
ar y ffyrdd a sefyllfaoedd traffig na chawsoch chi brofiad ohonyn
nhw wrth ddysgu gyrru. Mae Pass Plus wedi gwneud llawer i gynyddu
sgiliau a gwybodaeth pobl, wedi lleihau’r perygl iddyn nhw
fod mewn damwain ar y ffordd ac wedi arbed arian ar yswiriant ceir.
I gael gwybod rhagor am Pass Plus, cliciwch yma yma
Mae Pass Plus Cymru yn ddatblygiad sy’n cynnig llawer mwy
na’r cynllun Pass Plus sylfaenol.
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf hynny, cliciwch
yma i weld pryd y bydd y cwrs nesaf yn rhedeg yn eich ardal chi.
Cyn pen dim, byddwch chi’n gyrru yn fwy effro, yn fwy medrus
ac yn fwy diogel!
Sylwch: Y DSA ac nid MAC sy’n rhoi’r dystysgrif Pass
Plus.