| Wedi
pasio eich prawf gyrru? Dyma'r newyddion da...
…beth
am ddarganfod mwy o dechnegau, awgrymiadau
a syniadau gyrru am £20 yn unig (os ydych chi rhwng
17-25 oed ac yn byw yng Nghymru).
…a does dim prawf!
Dyma sut mae’n
gweithio...
Byddwch yn canolbwyntio
ar:
- Fynd ar y draffordd
- Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
- Mynd o gwmpas yn y nos
- Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur
- Gyrru ar ffyrdd gwledig
- Meddwl ymlaen – yn union fel y gwnewch chi nawr
Beth
gewch chi o hyn?
- Sgiliau gyrru gwell
- Mwy o obaith o yswiriant is *
- Llai o gyfl e o gael damwain neu anafu’ch hun, ffrindiau
a phobl eraill
Ein print mân
Eich cyfrifoldeb chi yw gyrru – cymerwch gamau i ddod yn
yrrwr gwell fyth.
Gallai Pass Plus Cymru fod yn ddelfrydol i chi. Mae’n gwrs
gyrru uwch byr, wedi’i arwain gan arbenigwr, sydd wedi’i
gynllunio i bobl ifanc ddatblygu technegau’r ffordd ac i
ehangu profi ad. Rhoddir gymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
*Drwy gynyddu’ch
sgiliau gyrru, eich gwybodaeth a’ch ymwybyddiaeth o beryglon,
gallwch chi gwtogi ar y perygl o fod mewn gwrthdrawiad a chael eich
helpu i gael disgownt sylweddol gan
lawer o gwmnïau yswiriant.
|