| Tynnir enw enillydd bob tri mis. Cynhwysir pawb sydd, yn ystod y tri mis blaenorol, wedi cymryd rhan mewn cwrs Pass Plus Cymru ac wedi dychwelyd ei holiadur ar ôl y cwrs. Y wobr, a noddir gan GEM Motoring Assist, yw £250 mewn arian!
Gyrru’n ddiogel yn talu ar ei ganfed i berson ifanc o Wynedd
27/7/10
Mae gwr ifanc o Wynedd yn dathlu gwobr ychwanegol wedi iddo gymryd rhan mewn ymgyrch i helpu gyrwyr ifanc i aros yn ddiogel wrth y llyw. Cwrs i wella gyrru ar gyfer pobl ifanc ydi ymgyrch Pass Plus Cymru. Y nod yw gwella medrau gyrru cyffredinol y gyrwyr a lleihau’r tebygolrwydd iddynt fod mewn damwain car.
Mae’r ymgyrch yn cael ei gefnogi gan Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd Gwynedd ac yn rhoi gwobr ariannol o £250 bob tri mis i un person ifanc sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch. Yr enillydd y tymor hwn yw Morys Williams, 18 oed, o Lanrug.
Mae Morys yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, Bangor. Meddai: “Roedd yn gyfle gwych i gael hyfforddiant ychwanegol a phroffesiynol ar ôl pasio fy mhrawf gyrru, a’i gael am £20 yn unig yn well fyth.”
Bydd pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn cael eu hyfforddi mewn:
- Gyrru ar y draffordd
- Technegau gyrru ac adnabod peryglon
- Gyrru wedi iddi dywyllu
- Gyrru yn hyderus mewn trefi a dinasoedd prysur
- Gyrru ar ffyrdd cul cefn gwlad
Meddai Colin Jones, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd, ac aelod o’r Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd:
“Mae’r cynllun Pass Plus Cymru yn ffordd dda iawn i bobl ifanc wella eu medrau gyrru ac i fod yn llai tebygol o gael eu hanafu, neu anafu eu cyd-deithwyr a defnyddwyr ffordd eraill, mewn damwain.
“Yn anffodus gyrwyr ifanc yw’r mwyaf tebygol o fod mewn damwain ffordd ac mae unrhyw beth allwn ei wneud i atal hyn yn newyddion da iawn.
“Bydd enw pawb sy’n mynychu’r cwrs yn mynd i’r het a bydd un enillydd lwcus yn derbyn £250. Llongyfarchiadau i Morys am ennill y gystadleuaeth yma.”
Gwobr i Yrrwr Ifanc o Went
23/3/09
Rebecca Smith, 22 oed, o Gwmbrân yw enillydd diweddaraf gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Tynnwyd enw Rebecca o’r rhestr o bawb a oedd wedi dychwelyd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei Hyfforddwr Gyrru Pass Plus Cymru oedd Kevin Cunningham.
Rob yn Ennill Gwobr Pass Plus Cymru
13/1/09
Rob Hughes, sy’n byw ger Llandrindod, yw’r cyntaf ym Mhowys i gael gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Tynnwyd enw Rob o’r rhestr o bawb, ar hyd a lled Cymru, a oedd wedi dychwelyd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs i Yrrwr Ifanc. Enillodd Rob £250 – rhodd gan GEM Motoring Assist.
Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Rob: “Doeddwn i ddim wedi gyrru ar draffordd o’r blaen a rhoddodd y cwrs i mi’r hyder i yrru ar draffyrdd ac mewn dinasoedd. Roedd y profiad i gyd o les mawr.”
Meddai Gareth Evans, Hyfforddwr Drive On a Chyflwynydd Pass Plus Cymru: “Rwy’n credu ei bod hi’n werth gwneud cwrs Pass Plus Cymru. Mae’n rhoi llawer o gyngor buddiol i’r gyrrwr newydd a llawer o brofiad o yrru ar y ffordd. Efallai y gall gyrwyr ifanc hefyd elwa o gael disgownt ar eu hyswiriant am y swm bach o £20.”
Mae’r cwrs yn cynnwys sesiwn theori a sesiwn ymarfer a gyflwynir gan Hyfforddwyr Gyrru sydd wedi’u Cymeradwyo. Ar ôl i yrwyr ifanc ei gwblhau, gall fod ganddynt hawl i gael gostyngiad yng nghost eu hyswiriant. Anelir y cynllun at y rhai 17-25 oed sydd â thrwydded yrru lawn.
Jessica’n Cael ei Gwobr
9/10/08

Jessica Wright, sy’n 22 mlwydd oed yw’r ail i dderbyn gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Cafodd enw Jessica ei dynnu oddi ar restr pob un o’r ymgeiswyr a ddychwelodd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei huwch hyfforddwr Pass Plus Cymru oedd Mr Ron Ingall o Ron Ingall School of Motoring a leolir yn yr Eglwys Wen.
Dywedodd Prif Weithredwr GEM Motoring Assist’s, David Williams ‘Rydym yn falch iawn o gael noddi gwobrau’r fenter Gymreig gyffrous hon. Rydw i’n sicr y bydd Pass Plus Cymru yn helpu i wneud gyrwyr Cymreig yfory yn llawer mwy diogel, ymwybodol, ac ystyriol.
Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Jessica, “Mi fwynheais yr hyfforddiant ychwanegol a roddodd Pass Plus Cymru i mi, ac fel gyrrwr newydd mi gefais lawer o gyngor a dysgais lawer o bethau defnyddiol. Rydw i’n argymell y cwrs i bawb sydd newydd basio’u prawf.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae Pass Plus Cymru yn fenter dda i helpu gyrwyr ifanc i ddysgu mwy o sgiliau gyrru a datblygu i fod yn yrwyr mwy diogel.”
Datblygwyd Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr amhrofiadol rhwng 17 a 25 i gynnig mwy na’r cynllun Pass Plus sylfaenol. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Wrecsam yn gallu cynnig y cwrs hyfforddi i yrwyr newydd. Cyfanswm cost y cwrs yw £20 yn unig, gostyngiad sylweddol ar y gost arferol sydd rhwng £120 a £150. Cynhelir y cyrsiau hyfforddi ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam drwy’r flwyddyn.
Mai 2008: Joe Bacchetta o’r Porth yn Rhondda Cynon Taf, a myfyriwr newyddiaduraeth 19 oed ym Mhrifysgol Morgannwg, yw’r cyntaf i gael gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Tynnwyd enw Joe o blith rhestr o bawb a oedd wedi dychwelyd ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei Uwch-Hyfforddwr Gyrru ar gyfer Pass Plus Cymru oedd Simon Hughes o SMS, Aberdâr. Meddai Prif Swyddog Gweithredol GEM Motoring Assist, David Williams, “Rydyn ni wrth ein bodd yn noddi gwobrau’r fenter gyffrous hon yng Nghymru. Rwy’n siwr y bydd Pass Plus Cymru yn helpu i sicrhau y bydd gyrwyr Cymru yfory yn yrwyr mwy ymwybodol, mwy ystyriol a mwy diogel.”

Gwarchodaeth GEM Motoring Assist rhag i Gerbyd dorri i lawr
Mae GEM Motoring Assist yn cefnogi Ymgyrchoedd Diogelwch ar y Ffyrdd ers 1932, ac erbyn hyn mae’n falch o fod yn gweithio ar y cyd â Pass Plus Cymru.
Bydd GEM Motoring Assist nid yn unig yn cefnogi gweithgareddau diogelwch drwy ei gangen elusennol ond hefyd yn rhoi gwerth gwirioneddol am yr arian i’w aelodau pan fydd eu cerbydau’n torri i lawr. Bellach, mae GEM yn cynnig hyn, ar ddisgownt aruthrol o 25%, i’r rhai sy’n cymryd rhan yng nghynllun Pass Plus Cymru, a bydd yr arbediad hwnnw’n parhau bob blwyddyn y bydd y gyrrwr yn dal i fod yn aelod o GEM.
Cliciwch yma i gael gweld pam y mae aelodau GEM wedi dweud mai’r gwasanaeth hwn gan GEM yw’r ‘fargen orau yn y maes’, ac fe welwch chi hefyd fod modd i’r gyrwyr sy’n cymryd rhan yn Pass Plus Cymru arbed cryn dipyn ar eu costau moduro.
Am bris teg, mae’n
cynnwys:
- Aelodaeth o’r Clwb - aelodaeth lawn o’r Clwb ynghyd
â’r holl fanteision
- Cymorth Min-y-ffordd - 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn,
os bydd eich car yn methu, yn rhedeg allan o danwydd neu’n
colli’r aer o’i deiars yn unman ym Mhrydain cyhyd
â’ch bod chi’n fwy na milltir o’ch cartref
- Achub Lleol - os nad oes modd atgyweirio’r cerbyd ar
fin y ffordd, fe ddown ni i’ch nôl chi, eich cerbyd
a hyd at chwe theithiwr a mynd â chi i fodurdy lleol neu’ch
cartref cyhyd â’i fod o fewn 15 milltir
I gael rhagor o fanylion am GEM Motoring Assist - y gymdeithas flaenllaw
ym Mhrydain sy’n seiliedig ar ddiogelwch ar y ffyrdd ac sydd
â rhyw 70,000 o aelodau - ewch i www.motoringassist.com
|