|
Mae CSI Cymru yn Gynllun Diogelwch y Ffyrdd sydd wedi ei ddylunio mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae’r Cynllun yn cynnwys arddangosfa o gerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad ynghyd ac anafusion ffug.
Mae wedi ei ddylunio ar gyfer disgyblion 15/16 oed, Blynyddoedd 11 Ysgolion Uwchradd Gwynedd. Mae taith o gwmpas yr ysgolion wedi cychwyn eisioes.
Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu er mwyn i’r disgyblion fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a pharch sydd ei angen o fod yn ddefnyddiwr y ffordd, yn enwedig gyrrwr modur neu’n deithiwr. Mae wedi ei ddylunio i newid agwedd ac ymddygiad cyn iddynt fod yn yrwyr. Mae’r disgyblion yn 12 mis i ffwrdd o fod yn ddeiliaid trwydded gyrru dros dro a gobeithir wrth gyflwyno'r mesur ar yr amser yma y bydd yn annog pobl ifanc i fod yn gyfrifol am eu hunan, y teithwyr maent yn eu cario a defnyddwyr y ffordd eraill sydd yn rhannu'r un ffyrdd.
Datblygwyd y cynllun oherwydd y ganran uchel o yrwyr ifanc oedd yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.
Yn ystod 2006 roedd 617 o yrwyr 18 oed mewn gwrthdrawiadau, roedd hyn yn ddau ran o bump (39%) o holl yrwyr o dan yr oedran 20 oedd mewn gwrthdrawiadau. O fewn y gwrthdrawiadau yma roedd 389 (14%) yn yrwyr gwrywaidd ac roedd y gwrthdrawiadau yn rhai angheuol neu ddifrifol. Roedd gyrwyr benywaidd mewn 117 gwrthdrawiadau (9%) angheuol neu ddifrifol.
O fewn yr un cyfnod roedd ystadegau Gwrthdrawiadau Gwynedd ar gyfer gyrwyr o dan 25 oed fel a ganlyn: 6 Angheuol, 20 Difrifol a 128 ysgafn.
Calendr
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Gwedd newydd i Pass Plus Cymru
Mae cannoedd o ymwelwyr â’r Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael gwybodaeth am Pass Plus Cymru, sef fersiwn helaethach o Gwrs Pass Plus safonol y DSA yw’r cynllun hwn. Trwyddo, caiff gyrwyr ifanc (sydd rhwng 17 a 25 oed ac yn byw yng Nghymru) wybod am ragor o dechnegau gyrru, ynghyd â llawer ‘gair i gall’, am ddim ond £20.
Mae cyfres newydd o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd wedi’i chynllunio i hybu’r cynllun cenedlaethol cynyddol hwn ac mae’r adnoddau dwyieithog hynny’n cynnwys taflenni, posteri a gwybodaeth ar gardiau o faint cerdyn credyd. Cânt eu dosbarthu gan Hyfforddwyr Gyrru a Gymeradwywyd.
Caiff gwefan www.dragondriver.com sy’n ategu’r cynllun newydd hwn, ei hailwampio cyn hir i gyd-fynd ag ef.
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Ffrwyth gweithio mewn partneriaeth rhwng yr Is-Adran Diogelwch ar y Ffyrdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Gwylfa Wen Wrecsam o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw "Sioe Ffordd Impact".
Mae hi’n dangos yn glir y mathau o anafiadau a all ddigwydd mewn gwrthdrawiad eithaf araf, heb i neb orfod wynebu trawma’r profiad ei hun.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd wedi sylweddoli gwerth a photensial y fenter hon ac wedi rhoi Gwobr Gymunedol am Arloesi i’r partneriaid. Meddai Paul Scott, Rheolwr yr Wylfa Wen yn Wrecsam
"Rydyn ni’n falch o dderbyn y wobr hon ar ran holl aelodau’r Wylfa Wen yn Wrecsam. Rydyn ni wrth ein bodd bod y bartneriaeth wedi bod yn llwyddiant a byddwn ni’n dal i weithio gyda’n gilydd i leihau nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd yr ardal hon."
Bu cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad yn fodd i’r cynllun ddatblygu, ac oherwydd ei lwyddiant caiff menter Wrecsam ei chopïo gan Awdurdodau eraill yng Nghymru erbyn hyn.
Meddai Wendy Davies-Williams, Swyddog Cynorthwyol Diogelwch ar y Ffyrdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
"Mae Sioe Ffordd Impact yn dangos canlyniadau gwrthdrawiad yn glir ac mae modd ei haddasu i gyflwyno negeseuon penodol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Mae hynny’n gyfle i’r Swyddogion sy’n cyflwyno’r sioe roi cyngor ynghylch pob agwedd ar ddiogelwch mewn ceir yn ogystal ag atgoffa gyrwyr o’r angen i yrru’n ddiogel ac yn gyfrifol."
Mae Sioe Ffordd Impact yn ymweld ag ysgolion a cholegau yn Wrecsam ac wedi ymddangos mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled y Gogledd.
I gael gwybod rhagor, ffoniwch Wendy Davies-Williams ar 01978 297142
Lansio Sioe Ffordd ‘Car fu mewn Damwain’ Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
I geisio lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sy’n cynnwys pobl ifanc, fe lansiwyd cyd-fenter newydd yng Ngholeg Gwent yng Nglynebwy ddydd Iau 15fed Mawrth.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De a Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd o 10 awdurdod lleol yn y De wedi dod ynghyd i gyflwyno menter newydd i fyfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr colegau ledled y rhanbarth. Swyddogion Tân ac Achub sy’n cyflwyno’r Sioe Ffordd, a Thimau Diogelwch ar y Ffyrdd yr awdurdodau lleol, gan ddefnyddio Grant Arbennig gan Lywodraeth y Cynulliad, sy’n ei hariannu.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys grwpiau o ryw 30 o fyfyrwyr. Cânt gyflwyniad cychwynnol ar theori yn y coleg. Bydd hwnnw’n canolbwyntio ar Effaith Domino ac yn dangos sut y gall gwrthdrawiad ar y ffordd effeithio ar lu o wahanol bobl yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu hanafu neu eu lladd, ac ar eu teuluoedd. Cynigir cyngor ymarferol a gwahoddir y myfyrwyr i drafod y materion sy’n codi ac i ofyn cwestiynau.
Yna, caiff y myfyrwyr eu cymryd allan i weld car sydd wedi bod mewn damwain go-iawn, a hwnnw ar ôl-gert. Bu’r cerbyd hwnnw, Vauxhall Corsa, mewn gwrthdrawiad. Bu ei berchennog 18 oed yn ffodus i ddianc heb gael ei ladd, a hynny’n bennaf am ei fod yn gwisgo’i wregys diogelwch.
A’r olygfa honno o’u blaen o hyd, fe sonnir wrth y myfyrwyr am y peryglon sydd ynghlwm wrth yrru, fel yfed a chyffuriau, cyflymder amhriodol a defnyddio gwregysau diogelwch yn gywir.
Caiff y myfyrwyr hefyd eu tywys o amgylch injan dân ac ynddi ei holl offer achub a thorri, gan gynnwys y bag corff. Bydd hynny’n rhoi pwys pellach ar neges gyrru’n ddiogel.
Adeg y lansio, dywedodd y Prif Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd, Penny Thorpe, “Bydd gormod o yrwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed mewn damweiniau ar y ffyrdd. Byddan nhw’n aml yn meddwl eu bod yn gwybod y cyfan, ond gall eu gor-hyder a’u diffyg profiad achosi trasiedi. Mae’r Sioe Ffordd yn dangos iddyn nhw’n union beth all ddigwydd – ac y gallai hynny ddigwydd iddyn nhw”.
Gan fod y Sioe Ffordd hon yn ymweld â’r mwyafrif o golegau’r De, fe all fod yn ymweld â’ch coleg chi!
I gael gwybod rhagor, ffoniwch Penny Thorpe yn Capita Symonds ar 01633 463376
Mae Airbus wedi cydweithio â Heddlu’r Gogledd a Chyngor Sir y Fflint i gynnig cwrs Pass Plus Cymru i’w brentisiaid.
Meddai Gary Griffiths, pennaeth datblygu pobl ifanc Airbus UK ym Mrychdyn, “Rydyn ni’n falch o gefnogi’r fenter hon gan ei bod hi’n gyfle i’n prentisiaid ddatblygu rhagor ar eu sgiliau gyrru. Gobeithio y bydd ein prentisiaid, wrth gwblhau’r cwrs, wedi cynyddu eu gwybodaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ac yn eu cadw’u hunain ac eraill yn fwy diogel ar y ffyrdd.”
Meddai Geraint Jones, swyddog cynorthwyol diogelwch ar y ffyrdd yng Nghyngor Sir y Fflint, “Mae’n bwysig i ni addysgu pobl ifanc am ganlyniadau trasig posibl gyrru’n anniogel, a rhoi hwb i’w sgiliau a’u hyder.”
I gael gwybod rhagor, ffoniwch Geraint Jones ar 01352 704526

Fe sefydlwyd cynllun Megadrive yng Ngwent ym 1995 yn wreiddiol i
roi sylw i broblem ddifrifol iawn, sef bod gyrwyr ifanc, yn bennaf
oherwydd eu diffyg profiad, yn eu cael eu hunain mewn nifer anghymesur
o ddamweiniau ar y ffyrdd. Caiff Megadrive ei gyflwyno, felly, i
fyfyrwyr sy’n bwriadu cymryd eu prawf gyrru ymarferol cyn
hir ond a all beidio â gwybod am yr holl beryglon posibl sy’n
codi wrth yrru ar ffyrdd Prydain.
Bydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn Megadrive yn ymweld â
“gweithfannau rhyngweithiol” mewn grwpiau o dri ac yno
fe ddysgan nhw wybodaeth hanfodol am faterion gyrru, gan gynnwys:
|
ymwybyddiaeth o beryglon posibl |
|
y dogfennau hanfodol |
|
achosion damweiniau |
|
effeithiau a chanlyniadau yfed a chymryd cyffuriau |
|
prynu car newydd neu gar ail-law |
|
yr hyn y dylid ei wneud ar ôl gwrthdrawiad |
Flwyddyn ar ôl blwyddyn, y gweithfan mwyaf poblogaidd yw’r
un lle caiff y myfyrwyr gyfle i fentro i sedd y gyrrwr. Cânt
gyfle i yrru o amgylch cwrs arbennig mewn model diweddar o’r
Vauxhall Corsa yng nghwmni hyfforddwr gyrru sydd wedi’i gymeradwyo.
Yn aml, dyma’r blas cyntaf a gaiff y myfyrwyr o’r profiad
o fod y tu ôl i’r llyw.
“Mae Megadrive yn agor llygaid pobl ifanc i’r ffaith
fod gyrru’n gyfrifoldeb enfawr. Bydd hyd yn oed y rhai mwya
gwybodus yn synnu o sylweddoli faint y mae’n rhaid iddyn nhw
ei ddysgu i yrru’n dda.” Penny Thorpe, Prif Swyddog
Diogelwch ar y Ffyrdd, Tîm Diogelwch Ffyrdd Capita Symonds.
|
4 - 6 Medi |
|
11 - 13 Medi |
|
25 - 27 Medi |
|
9 - 11 Hydref |
|
16- 18 Hydref |
|
23 - 25 Hydref |
Ddwy flynedd yn ôl, fe luniodd staff yng Ngholeg Gwent raglen
Ysgol Haf i fyfyrwyr sydd newydd orffen eu harholiadau TGAU. O sylweddoli
bod gyrwyr ifanc newydd yn eu cael eu hunain mewn nifer anghymesur
o fawr o wrthdrawiadau, roedd staff yn y Coleg yn awyddus i gynnwys
agwedd ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn yr ysgol haf. Fe gysyllton nhw
â’u huned leol ar ddiogelwch ar y ffyrdd a chael eu
cyfeirio ymlaen i Ysgol Foduro Casnewydd. Canlyniad hynny oedd creu
cwrs gyrru, a’r enw arno erbyn hyn yw’r Academi Gyrwyr
Ifanc.
Bydd y cwrs yn rhedeg am ddeuddydd yr wythnos drwy gydol yr haf,
a’i nod yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y prawf theori a’r
prawf gyrru ymarferol. Mae rhyw 175 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan
yn yr ysgol haf ac wedi llwyddo i ennill Credydau Rhwydwaith y Coleg
Agored (OCNC). Caiff y myfyrwyr dâl o £40 yr wythnos
ar yr amod eu bod yn dod i bob sesiwn!
Mae Top Drive yn ddigwyddiad i bob un 16-18 oed yn Sir Benfro a
chaiff ei gynnal am 4 diwrnod ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Mae’n
gyflwyniad i yrru ac mae’n helpu i gwtogi ar ddamweiniau traffig
ar y ffyrdd – a’u rhwystro – gyda’r grwp
oedran hwn. Mae gweithwyr proffesiynol wrth law i roi cyngor arbenigol
i fwy na 400 o’r rhai sydd ar fin dechrau gyrru.
Yn y digwyddiad, caiff y rhai sydd ar fin dechrau gyrru brofiad
o’r rhain:
— gyrru oddi-ar-y-ffordd
— beth i chwilio amdano wrth brynu car neu feic
— sut mae ymagweddu at y prawf gyrru
— pa yswiriant sy’n iawn iddyn nhw
— beth i’w wirio’n gyson ar eu car neu eu beic.
Caiff pawb brofiad hefyd o weld ymladdwyr tân yn efelychu’r
gwaith adfer sy’n dilyn ar ôl Damwain Draffig ar y Ffyrdd.
Caiff Top Drive 2006 ei gynnal o ddydd Llun 5 Tachwedd tan ddydd
Gwener 9 Tachwedd
I gael gwybod rhagor, cysylltwch â John Gobbi (Swyddog Diogelwch
ar y Ffyrdd) ar 01437 77 5144
Mae DVD i atgoffa modurwyr ifanc i yrru’n ddiogel wedi’i
lansio mewn ymgais i ostwng nifer y damweiniau angheuol yn y Gogledd.
Cynhyrchodd Grwp Diogelwch y Ffyrdd yn y Gogledd y ddisg am mai
pobl 17-25 oed oedd 13 o’r 36 a fu farw ar ffyrdd y Gogledd
yn 2004.
Adeg lansio’r DVD, fe ail-grëwyd damwain ddifrifol a
cheir cyfweliadau ag un a oroesodd ddamwain, â pherthnasau’r
rhai a anafwyd neu a laddwyd, â swyddogion yr heddlu ac â
nyrs.
“Does dim gwahaniaeth eich bod chi wedi llwyddo yn eich prawf
a bod gennych chi gymhwyster i yrru car. Rydych chi’n dal
i ddysgu”, medd Heather Lynne Jones o Grwp Diogelwch Ffyrdd
y Gogledd. “Profiad yw’r allwedd i oroesi gyrru –
mae arnon ni eisiau i bobl ifanc yrru o fewn eu gallu a’u
profiad.”
Mae Adran Diogelwch y Ffyrdd Bro Morgannwg yn cynnig diwrnod o uwch-hyfforddiant
yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr Colegau Chweched Dosbarth.

Mae’r cynllun yn rhoi bore o theori iddyn nhw yn y stafell
ddosbarth. Yna, caiff sesiwn ymarferol ar-y-ffordd ei gynnal gan
ddefnyddio hyfforddwyr gyrru profiadol sydd â llu o gymwysterau.
Bydd llawer ohonyn nhw wedi llwyddo yn Uwch-Brawf RoSPA. Dywed Andy
Smith, Arholwr a Deiliad Diploma RoSPA, “Mae’r cynllun
yn targedu’r grwp oedran risg-uchel cyn iddyn nhw fynd i drafferthion.”
Caiff y gyfres o gyrsiau eu rhedeg mewn ysgolion a cholegau chweched
dosbarth ac fe gân nhw gefnogaeth lawn y staff a’r rhieni.
I gael gwybod rhagor, ffoniwch Mike Dacey, Rheolwr Diogelwch ar
y Ffyrdd, ar 01446 704774
|