| |
Bydd sylwadau’n ymddangos
yma pan fyddan nhw ar gael. Mae fforwm ar-lein i ofyn cwestiynau
a rhannu profiadau a meddyliau am fenter Pass Plus Cymru ar
gael yma. |
Roedd yn wych a byddwn i’n ei argymell i ’nghyfeillion. EE - Conwy
Yr £20 gorau rwyf erioed wedi’i wario!! Profiad gwerth chweil!! CG - Gwynedd
Teimlwn fod y cwrs yn ddefnydd rhagorol o’m hamser a’m harian. Mae wedi meithrin fy hyder wrth yrru ar y draffordd yn ogystal â chynyddu fy ymwybyddiaeth yn gyffredinol. Byddwn i’n argymell y cwrs i bawb sydd newydd lwyddo yn ei brawf neu ei phrawf. TD - Sir Benfro
Gwnaeth fy hyfforddwr i mi deimlo’n gyfforddus a rhoddodd hwb i’m hyder. Gwnaeth fy nhrin i fel gyrrwr cymwysedig a chynnig cyngor buddiol pan oedd angen hynny. GH - Powys
Diwrnod o hwyl. Hyfforddwr siaradus a hwyliog. Fe drawsnewidiodd fy agwedd at yrru ac erbyn hyn rwy’n llawer mwy ymwybodol wrth yrru. Bydda i hefyd yn teimlo’n hyderus wrth yrru, ac yn fwy diogel yn fy nghar. EF - Bro Morgannwg
Dwi’n llawer mwy hyderus bellach wrth yrru ar y draffordd! DC - Pen-y-bont ar Ogwr
Cwrs diddorol a llawn gwybodaeth. Asesodd yr hyfforddwr pa feysydd roedd angen i mi wella ynddyn nhw a dangosodd sut oedd gwneud hynny. AJ - Caerdydd
Rwy’n hapus i mi gymryd y cwrs. Rwy’n teimlo iddo ’ngwneud i’n well gyrrwr. Gobeithio y bydd y cwrs yn parhau er mwyn i bob gyrrwr ifanc wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb. BT - Pen-y-bont ar Ogwr
Cefais
flas mawr ar y cwrs pass plus. Gwelais i mi fagu ambell arfer gwael,
ond gan ’mod i’n gwybod am hynny rwan, dwi’n teimlo
’mod i’n gyrru’n llawer gwell. MR
- Môn
Profiad
difyr a buddiol iawn.
Roedd yn hyfforddwr da iawn a chefais lawer o gynghorion llesol i wella rhagor ar fy ngyrru. Roedd y sesiwn
ar theori’n ddefnyddiol, yn enwedig y rhan gyda’r swyddog
tân – fe helpodd i wella fy agwedd at yrru a ’ngwneud
i’n fwy ymwybodol o beryglon gyrru.
AT – Pen-y-bont ar Ogwr
Cefais
flas ar y cwrs ac rwy’n teimlo ’mod i wedi elwa’n
fawr. Rwy’n credu ’mod i’n awr yn yrrwr llawer
mwy gofalus a hyderus.
JW – Caerdydd
Roedd
dilyn cwrs pass plus cymru yn brofiad da iawn a hoffwn weld pob
gyrrwr sydd newydd lwyddo yn dilyn y cwrs buddiol hwn.
NK – Sir Gaerfyrddin
Roedd
agwedd yr hyfforddwr yn wych. Atebodd bob un o ’nghwestiynau.
Roedd yn amyneddgar iawn.
PK - Conwy
I
mi, roedd y cwrs yn rhagorol, ac o les yn bendant. Dwi bellach yn
teimlo’n llawer mwy hyderus i yrru ar draffyrdd ac yng nghanol
dinasoedd. Roedd yr hyfforddwr yn rhagorol. Gwnaeth i mi deimlo’n
gwbl gyffyrddus a chartrefol ac roedd y cwrs yn hwyl yn ogystal
ag yn gwrs dysgu da. Diolch.
EJ – Sir Ddinbych
Agwedd
yr hyfforddwr yn ystod y sesiynau ymarferol yn ardderchog, mor hamddenol
nes ei gwneud hi’n haws dysgu. Cwrs da iawn ar ei hyd a bydda
i’n ei argymell i bawb o ’nghydnabod.
AH – Sir y Fflint
Cwrs
ardderchog. Diolch i chi am y cyfle i’w wneud. Wedi argymell
wrth fy ffrindiau eu bod nhw’n ei ddilyn.
CS - Gwynedd
Rhagorol
ar y cyfan. Er ’mod i’n gyrru ers tair blynedd, roeddwn
i’n dal i deimlo ’mod i wedi dysgu llawer. Dylai’r
cwrs fod yn orfodol i bob gyrrwr newydd.
DP – Castell-nedd Port Talbot
Roedd
y fforwm trafod yn ddiddorol a buddiol. Mwynheais i’r sesiwn
ymarferol ar y ffordd ac roedd gyrru ar yr M4 yn magu hyder yno’ i. Diolch. CP
- Rhondda Cynon Taf
Y
cwrs pass plus yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n teimlo bod fy ngyrru
a’m hymwybyddiaeth o’r ffyrdd wedi gwella llawer ers
cwblhau’r cwrs.
FS - Abertawe
Cwrs
rhagorol y byddwn i’n ei argymell i bob gyrrwr. Rwy’n
gyrru ers dros 4 blynedd ond roedd yn dal i fod yn gymorth ac yn
fuddiol. Roedd y sgwrs, a’r lluniau’n arbennig, yn agoriad
llygad i beryglon y ffordd. Ac roedd y sesiynau ar y ffordd hefyd
yn help. Yn bendant, dylai pob gyrrwr newydd eu cael. Diolch yn
fawr iawn. RE
– Bro Morgannwg
|